Aaron Swartz | |
---|---|
Ganwyd | Aaron Hillel George Swartz 8 Tachwedd 1986 Highland Park |
Bu farw | 11 Ionawr 2013 Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | rhaglennwr, llenor, Internet activist, wicimediwr, gweithredydd gwleidyddol, person busnes, hacktivist |
Adnabyddus am | Reddit, Open Library, RSS |
Tad | Robert Swartz |
Mam | Susan Swartz |
Partner | Quinn Norton, Taren Stinebrickner-Kauffman |
Gwobr/au | Gwobr EFF, Gwobr James Madison, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd |
Gwefan | http://www.aaronsw.com |
Rhaglennydd cyfrifiadurol, awdur, archifydd, trefnydd gwleidyddol, ac ymgyrchydd rhyngrwyd o'r Unol Daleithiau oedd Aaron H. Swartz (8 Tachwedd 1986 – 11 Ionawr 2013).
Roedd Swartz yn aelod o'r RSS-DEV Working Group a gyd-ysgrifennodd y fanyleb "RSS 1.0"[1] ac adeiladodd y fframwaith gwefan web.py a phensaernïaeth yr Open Library. Adeiladodd Swartz Infogami, cwmni a gyfunodd â Reddit. Canolbwyntiodd Swartz hefyd ar gymdeithaseg, ymwybyddiaeth ddinesig, a gweithredaeth wleidyddol. Yn 2010 roedd yn aelod o Ganolfan Moeseg Prifysgol Harvard. Cyd-sefydlodd y grŵp ar-lein Demand Progress (a adnabyddir am ei ymgyrch yn erbyn SOPA) ac yn ddiweddarach gweithiodd gyda'r grwpiau gweithredol Rootstrikers ac Avaaz.
Ar 6 Ionawr 2011, cafodd Swartz ei arestio mewn cysylltiad â llwytho i lawr erthyglau academaidd o JSTOR yn systematig, a ddaeth yn destun ymchwiliad ffederal.[2][3] Roedd Swartz yn feirniadol o bolisi JSTOR o godi pris am gael mynediad i erthyglau ac yn talu'r cyhoeddwyr yn lle'r awduron. Roedd ffïoedd JSTOR yn cyfyngu ar fynediad i waith a gyhoeddwyd gan golegau a phrifysgolion yr Unol Daleithiau.[4][5]
Ar 11 Ionawr 2013 cymerodd Swartz fywyd ei hunan yn ei randy yn Crown Heights, Brooklyn, trwy grogi.[6][7][8][9]
|subtitle=
ignored (help)CS1 maint: uses authors parameter (link)